Jump to content of transcoded page.

This is a text-only page produced by the demo version of Usablenet Assistive: the actual content starts below this notice. For more details go to Lift Assistive Help Center.

BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg

---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD

» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Diweddarwyd: Dydd Llun, 7 Gorffennaf 2008, 11:28 GMT 12:28 UK
Tai fforddiadwy: Cynlluniau
Tai cefn gwlad
Cyngor Gwynedd: 'Cam hollbwysig cynta at strategaeth genedlaethol'

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi cynlluniau fydd yn mynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

Ac mae'r newidiadau i'r drefn gynllunio yn golygu y bydd yn haws i'r rhai â busnesau a ffermwyr sydd wedi ymddeol gael caniatâd i godi tai newydd.

Y Gweinidog Cynaliadwyedd, Jane Davidson, gyhoeddodd y cynlluniau ddydd Llun.

Dywedodd y byddai'r cynlluniau'n "sicrhau bod tai gwledig mwy fforddiadwy ar gael i bobl leol sy'n gweithio ac yn byw yng nghefn gwlad".

Nod y cynigion, meddai, fyddai rhoi sylw i ddarparu cartrefi i ffermwyr sy'n ymddeol ac i aelodau teuluoedd sy'n gweithio ar ffermydd ac yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i dai fforddiadwy.

... mae'r cyhoeddiad yn brawf fod Bae Caerdydd yn gwrando ar leisiau cefn gwlad.

Y Cynghorydd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd

"Y nod cyffredinol yw newid y system gynllunio a fyddai'n gwneud cymunedau drwy Gymru'n fwy cynaliadwy."

Mae'r cynigion yn golygu caniatáu codi tai i bobl sy'n gweithio mewn busnesau gwledig dilys, ffermwyr sy'n ymddeol ac aelodau teuluoedd sy'n gweithio ar ffermydd.

Fe fydd rhaid i'r holl ddatblygiadau tai newydd gyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy.

Ac fe fydd y cynigion yn golygu y gall awdurdodau cynllunio lleol ddatblygu polisïau ar gyfer cynlluniau datblygu effaith isel, lle mae pobl yn byw ac yn gweithio ar y tir ac yn hunangynhaliol o ran bwyd, ynni a gwastraff.

'Ymrwymiad'

Dywedodd Ms Davidson: "Mae darparu tai fforddiadwy i bobl sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig yn ymrwymiad sylweddol yn nogfen Cymru'n Un.

"Rwy'n benderfynol o helpu creu cymunedau cynaliadwy, byw drwy ein canllawiau cynllunio.

"Un o'r ffyrdd o ddatblygu cymunedau gwledig ar gyfer y ganrif hon yw estyn diffiniad Nodyn Cyngor Technegol (TAN) ... wrth ystyried aneddiadau hanfodol.

"Mae angen inni ehangu hyn y tu hwnt i¿r disgrifiad cyfredol sy'n cynnwys gweithwyr amaethyddol neu goedwigaeth.

"Mae pobl eraill yn ennill bywoliaeth o fusnesau gwledig sy'n helpu i gynnal cymunedau byw llewyrchus yr ydym yn dymuno eu gweld yn tyfu."

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones,: "Yn fuan, fe fyddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar Newydd-Ddyfodiaid i Ffermio ac fe fydd cynigion heddiw ar dai gwledig yn effeithio'n bositif ar bobol ifanc sydd eisiau aros a gweithio mewn ardaloedd gwledig.

'Newyddion da'

"Mae'r cynigion yma yn newyddion da i ddyfodol ein cymunedau gwledig."

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards, ei fod yn croesawu'r cynigion.

"... rydan ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i roi arweiniad cenedlaethol ...

"... mae'r cyhoeddiad yn brawf fod Bae Caerdydd yn gwrando ar leisiau cefn gwlad.

Rwy'n benderfynol o helpu creu cymunedau cynaliadwy, byw drwy ein canllawiau cynllunio

Jane Davidson, Gweinidog Cynaliadwyedd

"Ac mae hwn yn gam hollbwysig cynta at strategaeth genedlaethol a fframwaith deddfwriaethol y mae gwir eu hangen cyn mynd i'r afael â'r hyn sy'n digwydd yng nghefn gwlad."

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ar Orffennaf 7 ac yn dod i ben ar Hydref 10.

Fe gafodd adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mehefin.

Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn i'r cyn-Weinidog, Sue Essex, i adolygu'r hyn oedd ei angen i sicrhau bod y llywodraeth yn cyrraedd targed i ddarparu 6,500 yn fwy o dai fforddiadwy erbyn 2011.

Mae'r addewid yn rhan o gytundeb Cymru'n Un y llywodraeth glymblaid.

HEFYD
Sut y bydd 6,500 o dai yn cael eu codi?
24 Meh 08 |  Newyddion
Cefn gwlad: 'Colli cenhedlaeth'
04 Meh 08 |  Newyddion
CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol
Text Only Options

Top of page


Text Only Options

Open the original version of this page.

     

Usablenet Assistive is a UsableNet product. Usablenet Assistive Main Page.