Rhowch fywyd yn rhodd
Trawsblaniadau yw un o lwyddiannau mwyaf gwyrthiol meddygaeth fodern. Ond maent yn dibynnu’n llwyr ar haelioni pobl a’u teuluoedd sy’n fodlon rhoi’r rhodd arbennig hwn i achub bywyd eraill.
Gall un rhoddwr roi bywyd i sawl person ac adfer golwg dau arall. Y mwyaf o bobl sy’n addo rhoi eu horganau ar ôl iddynt farw, y mwyaf a fydd yn elwa.
Gadewch ddyfodol i rywun
Ni fu’r angen am roddwyr erioed mor bwysig. Er gwaethaf camau breision mewn meddygaeth a llwyddiant ysgubol llawdriniaethau trawsblannu, mae pobl yn dal i farw wrth aros.
Ceir prinder dybryd o organau ac mae’r bwlch rhwng nifer y bobl sy’n aros am drawsblaniad a nifer yr organau a roddir yn tyfu.
- Rhoi organnau - atebion i'ch cwestiynau
- Archebu posteri a phamffledi Cymraeg
- Allwn i fod yn gyfrannydd aren byw?
- Cyfrannu Cornbilennau. Golwg yn rhodd.
Ymgyrch Gymreig y gwanwyn 2007-03-30
Lansiodd UK Transplant ymgyrch bostio taflenni i hybu rhoddi organau a thrawsblannu yng Nghymru. Mae'r taflenni yn cael eu hanfon allan i 278,237 aelwyd yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe ym mis Ebrill 2007 a byddant yn cyrraedd rhyw draean o boblogaeth Cymru.
Bydd yr ohebiaeth yn rhoi gwybodaeth am roddi organau a bydd yn cynnwys ffurflen gofrestru i ymuno â chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG (CRhO).
Mwy o wybodaeth: